Nofela CIC
Cefnogwch ein hachos!
£104.00 o £1,300.00 targed
4 tocyn o 50 gôl tocyn
Am ein hachos
Stori Nofela: Adeiladu Siop Lyfrau & Gofod Cymuned Gyntaf Abertawe
Shwmae Pawb
Ein Gweledigaeth: Llyfrau, panedau a pherthyn
Mae Abertawe yn ddinas llawn balchder, ond i nifer yn y gymuned LHDCTRhA+ a niwroamrywiol, mae cael gafael am le i fodoli heb ofn na barn - neu’r pwysau o amgylchedd synhwyraidd uchel - yn her.
Rydym yn breuddwydio am siop lyfrau LHDTC+ a hwb cynhwysol sobr yng nghalon Abertawe.
Y Bobl Tu Ôl I’r Freuddwyd
Nid ydyn ni’n tri sylfaenydd yn unig; rydyn ni’n fudiad wedi’i danio gan dros 160 o leisiau lleol. Mae ein harolwg (https://forms.gle/twehrak216yeMEP7A) yn datgelu gwirionedd torcalonnus ond pwerus: mae ein cymuned yn un ynysedig sy’n chwilio am gynhwysedd.
Mae 90% o’r ymatebwyr yn ddweud bod Abertawe angen y gofod hwn nawr.
Rhannodd un ymatebydd: "My girlfriend was hate crimed... having somewhere we can go where she can be safe would mean everything."
Siaradodd eraill am y gorflinder o ‘fasgio’ yn ofodau cyhoeddus a’r angen am amgylchedd tawel, synhwyraidd isel.
O Freuddwyd i Realiti: Y Lansiad Meddal yn Elysium
Cawson ni ein digwyddiad pop-yp cyntaf yn Oriel Elysium, Abertawe, yn Ionawr, ac roedd yr ymateb yn anhygoel. Ymunodd dros 50 ohonoch chi gyda ni i bori dros lyfrau, rhannu syniadau, a dechrau adeiladu ein Panel Cymuned. Profoch chi nad yw’r galw dim ond ar bapur. Ers hynny, rydyn ni wedi cynnal digwyddiadau i/gyda Sadies Butterflies, Coleg Gŵyr, Caffi Ieuenctid GoodVibes YMCA, QueerTawe, Balchder Abertawe, Urban HQ & Clwb Llyfrau Cwiar Abertawe.
Am fanylion ar ddigwyddiadau sydd ar ddod, ewch i: https://nofelalgbtq.blogspot.com/
Y Tîm
Rydyn ni’n tair menyw cwiar, niwrowahanol gyda gwreiddiau dwfn yn Abertawe.
Karen: Actifydd sydd â’i wreiddiau mewn gofal, cysylltiad, a lles cymunedol.
Sarah: Sylfaenydd Clwb Llyfrau Cwiar Abertawe ac addysgwraig cymuned brofiadol.
Mair: Hanesydd, ysgrifennwr a siaradwr Cymraeg sy’n ymroddedig i’n treftadaeth leol a’r iaith Cymraeg.
Bydd eich cefnogaeth yn helpu i ariannu:
Costau sefydlu rhent, staffio, stoc, unedau dodrefn ayyb.
Ymunwch â’r Stori
Fel Cwmni Buddiant Cymunedol, mae Nofela yn perthyn i’r gymuned. Rydym wedi ein rhwymo'n gyfreithiol i sicrhau bod yr holl asedau ac elw o fudd i bobl LHDTC+ Abertawe a De Cymru.
Drwy gefnogi Nofela heddiw, nid ydych chi’n unig yn prynu llyfr neu beiriant coffi; rydych chi'n helpu i ariannu gofod cymunedol LHDTC+. Rydych chi'n dweud wrth bob person LHDTC+ a niwroamrywiol yn Abertawe eu bod nhw'n haeddu lle diogel i berthyn.
Gadewch i ni droi'r dudalen gyda'n gilydd.
Diolch yn fawr!
Karen
Mair
Quebei
Sarah
Gwobrau'r raffl nesaf
jacpot o £25,000
Y raffl nesaf
Sad 18 Gorffennaf 2026
Tynnu canlyniadau
Jacpot £25,000
- Enillydd! Mx H (Swansea) Enillodd £25.00!
- Enillydd! Mx J (Swansea) Enillodd £25.00!
- Enillydd! Mx G (Swansea) Enillodd £25.00!
- Enillydd! Ms A (Swansea) Enillodd 3 tocyn ychwanegol!
- Enillydd! Mx W (Swansea) Enillodd 3 tocyn ychwanegol!
- Enillydd! Mx T (Swansea) Enillodd 3 tocyn ychwanegol!
- Enillydd! Mx D (Swansea) Enillodd 3 tocyn ychwanegol!
- Enillydd! Mr D (Swansea) Enillodd 3 tocyn ychwanegol!
- Enillydd! Ms L (Bromley) Enillodd 3 tocyn ychwanegol!
- Enillydd! Mx W (Swansea) Enillodd 3 tocyn ychwanegol!
- Enillydd! Mx R (Swansea) Enillodd 3 tocyn ychwanegol!
- Enillydd! Mr G (Swansea) Enillodd 3 tocyn ychwanegol!
- Enillydd! Mx W (Swansea) Enillodd 3 tocyn ychwanegol!
- Enillydd! Mx B (Swansea) Enillodd 3 tocyn ychwanegol!
- Enillydd! Mr H (Swansea) Enillodd 3 tocyn ychwanegol!
- Enillydd! Mx D (Swansea) Enillodd 3 tocyn ychwanegol!
- Enillydd! Mx G (Swansea) Enillodd 3 tocyn ychwanegol!
- Enillydd! Ms D (Swansea) Enillodd 3 tocyn ychwanegol!
- Enillydd! Ms L (Port Talbot) Enillodd 3 tocyn ychwanegol!
Sut mae'r loteri yn gweithio
£1 y tocyn
Mae hynny'n iawn, yn wahanol i lawer o loterïau eraill, dim ond £1 yr wythnos yw ein tocynnau loteri.
Helpwch ni i wneud mwy
Am bob tocyn rydych chi'n ei chwarae mae 80.0% yn mynd at achosion da a gwobrau.
Gwobr jacpot o £25,000
Cydweddwch bob un o'r 6 rhif ac rydych chi'n ennill y JACKPOT!
Share this page
Sharing this page will help to generate interest for this cause
Rydym wedi llunio neges awgrymedig isod y gallwch ei rhannu gyda'ch post